|
Briliant
o gem, dyma y moves i wella eich gem:
A- Ydi top spin
B- Ydi slice
(Mae gwthio'r bwtwm dau waith yn gwneud shot caletach)
A wedyn B- Lob 
B wedyn A- Drop Shot
A + B- Smash Shot
Mae lliw y bel yn
newid i ddangos pa fath o siot sydd wedi cael ei chwarae, oren yn top
spin, glas yn slice ac pinc yn smash.
Pan mae rhywun yn
trio lobio chi triwch rhedeg at y seren ar y cwrt, ac os yda chi'n cyrraedd
yna yn gynar mae gan chi siawns da o smashio'r bel digon caled fel fydd
eich elyn methu ei taro'n ol.
Proffeils
o pob cymeriad:
Mario:
Mae Mario yn all-rounder, ac ddim yn gryf mewn dim darn o'i chwarae.
Mae Mario efo gyd o'r sgil, ond ei fod angen colli ychydig o pwysau,
atgoffa chi o rhywun? Un o pwyntiau gorau Mario ydi ei celebration fo
ar ol curo pwynt.
Luigi:
Mae Luigi yn all-rounder arall, fel ei frawd ond ei fod yn well na Mario
gan ei fod yn gyflymach ac yn gallu neidio'n uwch. Mae Luigi yn ddewis
poblogaidd iawn gan pawb sy'n chwarae.
Peach:
Mae Peach yn technical player, ac yn gallu chwarae siots da.
Baby Mario:
Ffefryn Stiches, speed ydi arf gorau y babi, ac am boi bach mae efo
serf cyflym. Tueddol i gael i lobio, dim yn rhy siwted ar gyfer chwarae
wrth y net. Mae Stiches yn cwyno weithiau bod o'n meddwl bod y babi
yn blino os ydi'r gem yn parau'n hir.
Yoshi:
Mae Yoshi yn chwaraewr cyflym arall, ond yn wahanol i Baby Mario nid
yw ei siots mor pwerus.
DK:
Fy ffefryn personol, mae'n taro'r bel yn galed, a nid yw mor araf a'r
power players arall, mae'n briliant wrth y net, ond gall chwaraewyr
cyfrwys ei guro trwy taro'r peli i'r gornel trwy'r adeg. Byswn i yn
bersonol yn anghofi trio ei lobio, gan fod ei smash o mor pwerus.
Paratroopa:
Ffefryn Hardcore,
mae'n hedfan ac yn gallu taro'r
bel yn galed. Mae'n chwaraewr Tricky ac yn gallu newid cyfeiriad
y bel ar ol ei daro. Mae braidd yn anodd controlio y chwaraewr can ei
fod yn floatio o gwmpas.
DK Jr.:
Mab DK, mae'n
power player fel ei Dad ond nid yw efo gymaint o pwer, mae ella ychydig
bach yn gyflymach nai Dad, ond mae'n llai o faint na gweddill y power
players. Felly nid yw mor dda wrth y net.
Wario:
Mae Wario yn power player arall, mae efo siot caled ond mae'n andros
o araf yn trio rhedeg o gwmpas, ond mae'n ffyni edrych arno'n trio rhedeg
o gwmpas.
Waluigi:
Waluigi ydi gelyn newydd Luigi mae'n technical player ac efo deif mawr
mae'n eitha ffyni edrych arno yn rhedeg o gwmpas hefyd. Mae'n chwaraewr
da a dwi yn hoffi ei ddefnyddio oherwydd ei ddeif mawr. Mae Waluigi
yn berig ofnadwy wrth y net gan ei fod efo llawer o egni ac yn hoffi
taflu ei hun o gwmpas y lle, tebig i pwy mae o dwi ddim yn gwybod!!!
Hefyd hoff gymeriad Jackson di Waluigi.
Daisy:
Mae Daisy yn debyg iawn i Peach, gan ei fod yn gallu chwarae siots da.
Toad:
Mae Toad yn chwaraewr technical arall, mae ei syrf yn araf, ac mae braidd
yn fach.
Birdo:
Dwi ddim yn hoffi Birdo, mae yn gyflym a mae efo siot caled hefyd. Ond
mae Birdo braidd yn anoying, fel ffeindiodd Dai allan pan pigodd o fo
mewn camgymeriad.
Bowser:
Bowser ydi'r chwaraewr mwyaf yn y gem, a fel fysa chi'n ddisgwyl mae
ei syrf yn gyflym, ac mae'n berig bywyd wrth y net. Mae'n araf iawn
a dwi'n meddwl mai fo ydi'r chwaraewr arafa yn y gem.
Boo:
Mae Boo yn chwaraewr Tricky arall, ond yn wahanol i Paratroopa mae ei
siots ddim mor pwerus a hynny, ond mae'n dal yn chwaraewr perig iawn
gan ei fod yn swerfio'r bel mwy na Paratroopa.
Shyguy:
Mae Shyguy yn chwaraewr gwael, mae'n araf ac yn fach ac efo tuedd o
hitio'r bel yn erbyn y net yn aml. Nid wyf yn hoffi defnyddio Shyguy.
|