I.S.S. PRO EVOLUTION 2

HINTS GEMAU
PSone
N64
PC
DC

PETHAU ERAILL
E-Bostio Fi

                                                                          

 

Ychydig o tipiau ar gyfer y gem newydd.

Expert Free Kick Takers:

Beckham (Lloegr)

Recoba (Uruguay)

Zidane (Ffrainc)

Del Piero (Eidal)

Rivaldo (Brasil)

Sut i gurro'r Master League

Y tim cyntaf:

Ivanov: Golgeidwad cyntaf. Braidd yn wael, ond nid oes fawr o point newid o ar y dechrae, gan fod "Golgeidwadau ddim yn curo gemau".

Stromer: Da yn penio, gwael yn rhedeg. Rhaid ei rhoi yn y canol i ddelio gyda corneli ac crosses, rhaid rhoi Valey wrth ei ymyl i'w helpu allan pan bydd ymosodwyr yn rhedeg pasio.

Ducic: Amddiffynwr gweddol, gwell yw ei newid gyda Valey a'i chwarae yn cefnwr ochr.

Valey: Amddiffynwr gorau'r tim. Mae'n eithaf cyflym, felly gellir ei ddefnyddio i ddal yr ymosodwyr sy'n pasio'r amddiffyn.

Iorga: Araf ac gwael. Rhaid ei newid gyda Eddington.

Cellini: Capten y tim. dim yn gyflym iawn, ond mae'n gryf ar y bel. Ac yn dda yn taclo hefyd.

Ximenes: Os da chi ddim yn chwarae Burchet fyny cae dylsa chi chwarae fo yma. Mae Ximenes yn strugglo ar yr asgell gan ei fod efo cyflymdra crwban.

Espinas: Asgellwr gorau'r tim. Gellir ei ddefnyddio'n effeithiol yn y canol hefyd.

Miranda: Skillful, ond yn araf (Atgoffa chi o rhywun). Os yda chi eisiau mwy o cyflymdra i rhoi'r bwledi i'r ymosodwyr triwch Matt yn lle.

Castello: Eithaf cyflym, ond yn rhedeg allan o amser. Dylai'r ymosodwr cyntaf i chi brynnu swapio gyda Castello.

Bolatta: Dda'n yr awyr, dda ar y llawr, ond yn araf iawn. Byddai'n hawsach ei newid gyda Burchet sy'n gyflymach a wedyn peidio croesi'r bel yn uchel fewn i'r bocs.

Y Gynghrair:

Hefyd dylsai defnyddio dewis doeth pa timau sydd yn yr un cynghrair a chi helpu chi trwy'r gem, dyma'r timau salaf:

West Ham: Tim gweutha'r league, dim ymosod da iawn, ac bydd eich tim araf eich hyn yn rhoi trwbwl i'w amddiffyn.

Leeds: Tim gwael arall. Ymosodwyr eithaf da ond mae'r amddiffyn yn araf ac mae canol cae yn wan.

Amsterdam: Ni ddylai Ajax rhoi fawr ddim o trwbwl i chi. Ond dylai cadw llygad barcud ar yr ymosodwr Alvelazi sy'n gallu sgorio'n rhwydd os yw'n cael hanner cyfle.

Marseille: Pires ydi chwaraewr peryg y tim. Maen't yn hoffi gwrth-ymosod a fo ydi ffocws y tim so peidiwch gadael i fo gael y bel.

Fireze: Roma, nid ydynt yn tim da yn I.S.S. (Fel yn go iawn de 2-1). Mae chwaraewyr da fel Batistuta a Rui Costa yn struglo mewn tim heb cyflymdra. Ond yn Toldo mae ganddynt golgeidwad arbennig o dda.

Dortmund: Mae'r Almeinwyr yn gryf, gyda rhai Africanwyr cyflym yn y tim hefyd. Rhaid bod yn barod am gem corfforol ganddynt.

Leverkusen: Ychydig o Brasiliaid da ac Nuvile sy'n gwneud tim Leverkusen ac maent yn tim anodd i'w dal gyda eich tim. Rhaid amddiffyn yn ddwfn ac gobeithio am siawns pan yn gwrth-ymosod.

Monaco: Mae'r stats hen yn gwneud Monaco'n tim gwell. Mae ganddynt dal Barthez a Trezeguet i poeni chi ar y ddau ochr o'r cae, ond mae'r canol cae yn wan.

Prynnu'r chwaraewr cyntaf

Y chwaraewr gorau i brynnu i ddechrae ydi Babangida o Nigeria sy'n costio 24 pwynt. Nid yw ei saethu yn gryf ond pan mae'n cael y bel mae'n anodd i'w ddal.

Y 5 golgeidwad gorau:

Kahn, Almaen [24 pwynt]

Shmeichal, Denmark [30 pwynt]

Seaman, (Dim jocs please) Lloegr [24 pwynt]

Chilavert, Paraguay [32 pwynt]

Barthez, Ffrainc [26 pwynt]

Y 5 amddiffynwyr canol gorau:

Cannavaro, Yr Eidal [28 pwynt]

Campbell, Lloegr [24 pwynt]

Hierro, Sbaen [32 pwynt]

Desailly, Ffrainc [30 pwynt]

Redondo, Yr Arianyn [32 pwynt]

Y 5 amddiffynwyr ochr gorau:

Carlos, Brasil [36 pwynt]

Jarni, Croatia [24 pwynt]

Reiziger, Iseldiroedd [24 pwynt]

Cafu, Brasil [30 pwynt]

Thuram, Ffrainc [30 pwynt]

Y 5 gorau'n canol cae:

Davids, Iseldiroedd [36 pwynt]

Ortega, Yr Arianyn [30 pwynt]

Beckham, Lloegr [40 pwynt]

Rivaldo, Brasil [46 pwynt]

Recoba, Uruguay [32 pwynt]

Y 5 asgellwr gorau:

Giggs, Cymru [36 pwynt]

Overmars, Yr Iseldiroedd [28 pwynt]

Babangida, Nigeria [24 pwynt]

Rui Costa, Portugal [36 pwynt]

Hadji, Morocco [26 pwynt]

Y 5 strikers gorau:

Shevchenko, Yr Iwcraen [40 pwynt]

Ronaldo, Brasil [50 pwynt]

Owen, Lloegr [40 pwynt]

Salas, Chile [32 pwynt]

Bierhoff, Yr Almaen [36 pwynt]

Y 5 sydd wedi cael ei gadael lawr:

Zidane, Ffrainc [40 pwynt]

Figo, Portiwgal [24 pwynt]

Raul, Sbaen [40 pwynt]

Maldini, Yr Eidal [32 pwynt]

Kanu, Nigeria [30 pwynt]